Prif lwyddiannau
Ers sefydlu Cynllun Yr Wyddfa yn 2018 mae’r Bartneriaeth wedi wynebu un o gyfnodau mwyaf heriol ein sector pan darodd y pandemig yn 2020. Search hynny, mae’r Bartneriaeth wedi cyflawni’r mwyafrif o’r pwyntiau gweithredu ag ymrwymwyd iddynt ac wedi profi llwyddiannau ysgubol. Dros y blynyddoedd diwethaf, daeth y Bartneriaeth yn fforwm effeithiol i rannu gwybodaeth, adnabod cyfleoedd cydweithio a rhannu adnoddau. Erbyn hyn mae gan y Bartneriaeth brofiad helaeth o arwain ar brosiectau arloesol, mynd i’r afael a heriau dwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd.
Wrth adlewyrchu ar y gwaith sydd wedi ei gyflawni mae llwyddiannau amlwg i’w dathlu megis y canlynol: peilot arloesol Rhodd Eryri gyfrannodd tuag at gynnal a chadw’r llwybrau, ail-frandio a gwelliannau sylweddol i rwydwaith Sherpa’r Wyddfa, system rhagarchebu ym Mhen y Pass, gwasanaeth ychwanegol y T10 yn Ogwen, hyfforddi dros fil o unigolion a pherchnogion busnes drwy gynllun Llysgennad Eryri, ap Llwybrau'r Wyddfa, cynlluniau Wardeiniaid Gwirfoddol a Charu Eryri a datblygiad cyffroes menter Yr Wyddfa Ddi-blastig.
Heriau
Mae’r Bartneriaeth wedi wynebu sawl her ers sefydlu Cynllun Yr Wyddfa ac yn parhau i brofi heriau newydd yn gyson. Mae Cofid 19 wedi trawsnewid nid yn unig ffyrdd o weithio a chyfarfod, ond gwelwyd newid ym mhatrymau ymweld ymwelwyr i’r Wyddfa ag i Eryri. Mae effaith hyn ar waith y Bartneriaeth wedi bod yn eithriadol o ddylanwadol ac wedi golygu newid trywydd o dro i dro. Enghraifft o’r newid hyn ydyw fod mwy wedi darganfod lleoliadau oedd yn gymharol ddistaw o ran ymwelwyr pan lansiwyd y Cynllun gwreiddiol, sydd wedi rhoi rhai o gymunedau ogwmpas ardal Yr Wyddfa o dan bwysau sylweddol. Er bod yr effeithiau yn rai cyfarwydd (sbwriel, campio gwyllt, cŵn yn rhydd, parcioanghyfreithlon), roedd y niferoedd uchel yn chwyddo’r effeithiau i lefelau na welwyd o’r blaen. Daethpwyd hyn a heriau nad oedd llawer o sonamdanynt cyn y pandemig i’r wyneb megis cerbydau gwersylla yn aros dros nos mewn amryw o leoliadau ar draws y Parc, baw dynol ar YrWyddfa, nofio yn yr awyr agored a deheuad pobl i fod wrth ddŵr e.e. Afon Cwm Llan.
Un o’r prosiectau mwyaf heriol heb os nag oni bai yw’r prosiect parcio a thrafnidiaeth. Er bod y gwaith amlasiantaethol hwn yn profi’n heriol iawn ar brydiau, mae partneriaethau gweithio effeithiol wedi ei datblygu a’i meithrin, ac mae gwelliannau wedi eu profi ar lawr gwlad mewn amser cymharol fyr. Search hynny, mae disgwyliadau partneriaid a chymunedau yn uchel ac mae datrys y mater yn parhau’n dalcen caled i’r Bartneriaeth.
Yn ychwanegol i hyn oll, mae’r diffyg buddsoddiad yn golygu nad yw’r adnoddau na’r arian gan y Bartneriaeth i fedru cyflawni rhai o bwyntiau gweithredu yn y tymor byr e.e. prosiect parcio a thrafnidiaeth, cysylltedd ffôn. Search hynny, mae’r hyn sydd wedi ei gyflawni dros y chwe blynedd ddiwethaf yn achos i’w ddathlu ac yn gosod sylfaen gref i’r Bartneriaeth ar gyfer parhau gayda’r gwaith hollbwysig hwn.
Cliciwch ar y blwch isod am ddiweddariad ar sut mae Partneriaeth Yr Wyddfa wedi ymdrin â’r pwyntiau gweithredu a nodwyd yn y cynllun gwreiddiol ers ei lansio yn 2018.